minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Priodasau

Mae perthynas yn cynnwys: Atyniad, Cydnawsedd, Cariad… ac wedyn… Ymrwymiad, Amynedd, Goddefgarwch a Gwaith Caled, ac os gallwch gynnal y rhain oll, yna gallai eich cariad dyfu a thyfu.

Mae priodas yn cynnwys bob un o’r uchod a mwy –

  • Wrth briodi, rydych yn clymu eich gilydd ynghyd yn gyfreithiol.
  • Rydych yn ymrwymo i’ch gilydd yn ffurfiol gerbron Duw ac yn ei enw.
  • Ym mhresenoldeb eich teuluoedd a’ch cyfeillion rydych yn datgan yn gyhoeddus eich bwriad i gysegru eich bywydau i’ch gilydd.
  • Rydych yn dathlu un o’r agweddau harddaf a mwyaf rhyfeddol ar fywyd, sef y berthynas rhwng dau o bobl sydd mewn cariad.

Ers canrifoedd, bu ein heglwysi’n dathlu uniad priodas, gyda’i draddodiadau, ei liwiau a’u sancteiddrwydd. Os hoffech chithau briodi yn un o’n heglwysi, byddem wrth ein bodd yn cynorthwyo i wneud eich diwrnod yn un arbennig iawn.

Gweddi dros y rhai sydd ar fin priodi

Dduw ein Tad, dy rodd eithaf yw cariad, a deisyfwn arnat i fendithio’r rhai a fydd, ger dy fron, yn derbyn ei gilydd mewn priodas. Diolchwn i ti eu bod wedi darganfod y fath gariad, a ffydd ac ymddiriedaeth y naill yn y llall, fel eu bod yn barod i gymryd ei gilydd ac i gadw a chynnal ei gilydd holl ddyddiau eu bywyd.

Na fydded i unrhyw beth fyth ddod rhyngddynt, ond drwy holl ansicrwydd a throadau bywyd, cadw hwy bob adeg mewn cariad ac yn driw i’w gilydd. Cadw hwy rhag afiechyd, tlodi a’r holl drafferthion a allai beri loes iddynt mewn unrhyw ffordd. Ond os daw unrhyw brofedigaeth i’w rhan, caniatâ y bydd i hynny eu gyrru’n agosach at ei gilydd ac yn agosach atat ti.

Caniatâ iddynt gydol eu dyddiau’r cariad perffaith hwnnw na all dyfroedd lawer mo’i ddiffodd ac sydd yn gryfach nag angau ei hun; drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen

Cymraeg

Weddings

Relationships involve : Attraction, Compatibility, Love… and then… Commitment, Patience, Tolerance and Hard Work, and if you can maintain all these, then your love may grow and grow.

Marriage involves all the above and more –

  • In marriage you are binding yourselves together in law.
  • You are formally making a commitment to each other before God and in His name.
  • In the presence of family and friends you are making a public declaration of your intention to dedicate your lives to each other.
  • You are celebrating one of the most beautiful and wondrous aspects of life, the relationship between two people in love.

For centuries our churches have been celebrating the union of marriage, with all its traditions, colour and holiness. If you would like to get married in one of our churches, we would love to help make your day very special.

A Prayer for those about to be married

O God, our Father whose greatest gift is love, bless those, we ask you, who, within your presence, will take each other in marriage. We thank you that they have found such love and faith and trust in each other, that they wish to take each other to have and to hold all the days of their life.

Let nothing ever come between them, but throughout all the chances and changes of life, keep them ever loving and for ever true. Keep them from illness, from poverty, and from all the trouble which may hurt them in any way. But if any trial does come to them, grant that it may only drive them closer together, and closer to you.

Grant to them through all their days the perfect love which many waters cannot quench and which is stronger than death itself; through Jesus Christ our Lord. Amen