Credwn yn Nuw, grym tragwyddol popeth da, sy’n dymuno perthynas rydd a chariadlon â phob un ohonom.
Credwn yn Iesu Grist, Mab Duw, sydd, drwy esiampl ei fywyd, ei ddysgeidiaeth a’i ras yn cynnig Iachawdwriaeth i’r ddynoliaeth. Nid drwy ein gweithredoedd ein hunain yr ydym yn gadwedig ond drwy weithred ryfeddol ac aberthol cariad Crist ar y groes a’i atgyfodiad i fywyd newydd. Drwy adnabod grym y gras hwn, y rhodd hwn, y cawn ein cymodi â Duw.
Credwn yn yr Ysbryd Glân, Ysbryd Duw sy’n gweithio i geisio cyffwrdd â’n cydwybodau â’n calonnnau, i ysgogi cariad ac undod ysbrydol.
Fel cymuned eglwysig, ceisiwn fyw ein ffydd gyda’n gilydd, gan fod yn ymwybodol o’n ffaeleddau, gan ymddiried yn Nuw a chan weddïo a gweithio dros ein gilydd a’r byd wrth geisio rhannu Newyddion Da Iachawdwriaeth.
We believe in God who is the eternal force of all goodness and who wishes to have a free and loving relationship with each one of us.
We believe in Jesus Christ, Son of God, who by the example of his life, teaching and grace, offers Salvation to human kind. Not through our own works are we saved, but by Christ’s wonderful, sacrificial act of love on the cross and his resurrection to new life. Through the knowledge, the power of this grace, this gift, we are reconciled to God.
We believe in the Holy Spirit, the Spirit of God who actively tries to touch our consciences and our hearts, to inspire love and spiritual unity.
As a church community we seek to live our faith together, being aware of our failings, trusting in God, praying and working for each other and the world and seeking to share the Good News of Salvation.