Bedydd
Mae bedydd yn un o gerrig milltir bywyd, sy’n symboleiddio – yn achos plentyn – ddymuniad y rhieni / gwarchodwyr i fynegi ar goedd eu hymrwymiad i les eu plentyn ac i hyrwyddo a pharchu popeth sy’n dda yn y byd.
“Rwyf yn dy fedyddio di yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân.”
Cynhelir y gwasanaeth yn yr Eglwys ym mhresenoldeb Duw a chyda chariad a chefnogaeth y teulu, rhieni bedydd, cyfeillion a chymdogion.
Mae sawl pwynt arbennig yn ystod y gwasanaeth:
- Bydd y ficer yn gweddïo dros eich plentyn a thros bawb a fydd yn gofalu am y plentyn ar daith ffydd.
- Byddwch chi a’r rhieni bedydd yn gwneud addewidion ar gyfer eich plentyn yn ystod y gwasanaeth.
- Defnyddir olew arbennig i wneud arwydd y groes ar dalcen eich plentyn.
- Mae hwnnw’n ennyd o bwys, sy’n nodi eich ymrwymiad chi ac ymrwymiad y plentyn i Dduw a phopeth sy’n dda.
- Bydd y ficer yn arllwys dŵr, a fendithiwyd ym medyddfan yr Eglwys, dros ben eich plentyn. Dyma fedydd y plentyn, glanhad ac adnewyddiad symbolaidd ar gyfer bywyd.
- Mae pawb yn addo parhau i gefnogi eich plentyn.
- Rhoddir cannwyll i chi yn ystod y gwasanaeth, pan fydd y ficer yn dweud, “Llewyrcha fel goleuni yn y byd er gogoniant i Dduw. Amen”
Os hoffech drefnu bedyddio eich plentyn, cysylltwch a:
Baptism
Baptism is one of life’s milestones, symbolising – in the case of a child – the wish of the parents / guardians to publicly announce their commitment to the well being of their child and to support and respect all that is good in the world.
“I baptize you in the name of the Father and of the Son and of the Holy Spirit.”
The service takes place in church in the presence of God and with the love and support of family, godparents, friends and neighbours. There are several special moments in the service :
- The vicar will pray for your child and for all those who will support them in their path of faith.
- You and the godparents will make some promises for your child in the service.
- A special oil will be used to make the sign of the cross on your child’s forehead.
- It is a significant moment, which marks you and your child’s commitment to God and all that is good.
- Water, which is blessed in the church font, will be poured over your child’s head by your vicar. This is the child’s baptism, a symbolic cleansing and renewal of life.
- Everyone promises to continue supporting your child.
- A candle will be given to you in the service when the vicar says, “Shine as a light in the world to the glory of God. Amen”
If you would like your child to be baptised please contact: