Ewch allan i’r byd dan orfoleddu gan fod Duw yn eich disgwyl yno ac am eich rhyfeddu gyda harddwch ei bresenoldeb.
Yng ngan yr aderyn du, ac yn hwtian y dylluan, a chri’r cadno; yn agor y blagur, ac ym mherarogl y blodyn, yn nisgyniad y ddeilen; yn siffrwd yr awel, ac yn rhuthr y gwynt, ac yn rhu’r storm; ym mharabl y nant, ac yn nawns yr afon, yn nerth y tonnau; yn heddwch y caeau, yn rhyddid y llethrau ac ym mawredd y mynyddoedd; yng nghri’r baban, a chwerthin y plant, ac yn hymian y sgwrsio; yn y cyffyrddiad cyfeillgar ar yr ysgwydd, ac yn yr ymestyn i ysgwyd llaw, ac yng nghofleidio ein ceraint; yn swn y ffatri, a threfn arferol y swyddfa, ym mhrysurdeb y siop – mae Duw yma, mae Duw yno, mae Duw ym mhobman.
Ewch felly, a cherdded gydag ef, yng ngoleuni ei gariad, ac yn llawnder y bywyd. Amen.
Go joyfully out into the world, because God is waiting for you there and wants to surprise you with the beauty of his presence.
In the song of the blackbird, the hooting of the owl, and the cry of the fox; the opening of buds, the perfume of flowers, and in the falling leaves; in the whispering breeze, the rushing of the wind and roar of the storm; in the babbling stream and the depth of the river, in the strength of the waves; in the peace of the fields, the wildness of the slopes and the greatness of the mountains; in the cry of a baby, the laughing of children and gentle humming of conversation; in the friendly touch on the shoulder, the outstretched hand of peace and embrace of a dear relative; in the sound of the factory, the smooth running of an office and busyness of a shop – God is here, God is there, God is everywhere.
Go therefore, and walk with Him, in the light of His love and in the fullness of life. Amen