Eglwys y Drindod Sanctaidd
Adeiladwyd Eglwys y Drindod Sanctaidd, Penrhyndeudraeth, ym 1858. Eglwys Fictoraidd ydyw a gynlluniwyd gan TM Penson a’i hadeiladu gyda chymorth rhodd hael gan Mrs William Oakeley o Gwmni Cloddio Llechi Oakeley, Blaenau Ffestiniog. Ychwanegwyd neuadd eglwys o adeiladwaith parod i’r dwyrain o’r prif adeilad. Cyfeiriad Arolwg Ordnans SH611388.
Yn 2018, dathlasom ein pen-blwydd yn 160 a daeth aelodau o’r gymuned, cynrychiolwyr sefydliadau lleol, ein Haelod Seneddol Liz Saville Roberts a’r Arglwydd Raglaw Edmund Bailey i fwynhau Gwasanaeth Dathlu a phregeth fyfyriol gan y Parchedig Susan Owen a fu gynt yn beriglor y plwyf. Cynhaliwyd arddangosfa o hanes Eglwys y Drindod Sanctaidd yr un pryd. Ym mis Tachwedd, buom yn cofio’r bobl o’r dref a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf gydag arddangosfa o eitemau hanesyddol ynghyd â llythyrau ingol o’r Ffosydd at aelodau teuluoedd y milwyr ym Mhenrhyndeudraeth.
Cynaliasom Ffair Haf Gymunedol fis Gorffennaf, Ffair Nadolig fis Tachwedd a Gŵyl Coed Nadolig yn cychwyn fis Rhagfyr. Honno oedd yr ŵyl gyntaf o’i bath i’w chynnal yn ein Heglwys ninnau ac roedd yn cynnwys coed o’r clybiau a’r sefydliadau yn y dref ac yn agor tymor yr Adfent.
Rydym ar hyn o bryd yn trafod ailwampio’r Eglwys er mwyn darparu canolfan galw heibio gyda gwresogi effeithiol, ystafell dawel ar gyfer trafod un wrth un a gofod ychwanegol ar gyfer addoliad a gweithgareddau.
Ein harwyddair yw: Drws agored, ar gyfer Addoli, ar gyfer Gymuned, ar gyfer Bywyd.
EGLWYS AGORED
Mae Eglwys Y Drindod Sanctaidd yn agored yn ddyddiol o 10.00 am 4.00 ar gyfer gweddi bersonol a myfyrdod. Croeso i Bawb.
Mae'r Drindod Sanctaidd Penrhyndeudraeth yn gweithio tuag at wobr Efydd yr Eco Eglwys. I gael rhagor o fanylion am y fenter ewch i: ecochurch.arocha.org.ukEco Church - Prosiect A Rocha UK
LLYFR COFFÂD
Mae Llyfr Coffâd yn cael ei baratoi i nodi yr enwau a phentrefi trigolion o Wynedd a fu farw oherwydd Covid 19 a bydd rhain yn cael eu coladu gan Eglwys y Drindod Penrhyndeudraeth. Bydd y Llyfr yn cynnwys yr enw bedydd a’r cyfenw yn unig a chartref olaf yng Ngwynedd i’r ymadawedig. Mae yr Ardd Dawel yng nghefn yr Eglwys yn gyflwynedig i’r rhai hynny a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig ac mae croeso i chwi wneud ymholiadau ynglŷn â chynnwys gwybodaeth yn y Llyfr Coffâd.
Cysyllter â Warden yr Eglwys AnnetteEvans -rhif ffôn :01766 770869, neu yr ysgrifenyddes Angela Swann 01766 770686 neu gwblhau y ffuflen sydd ar gael o fewn yr eglwys sydd ar agor 10-4 y.p. yn ddyddiol drwy gydol y flwyddyn
Gwasanaethau ar gyfer y dydd Sul nesaf pob un am 11.30yb (oni nodir yn wahanol)
27 Hydref Gwasanaeth Unedig y Cymun Bendigaid yn Eglwys Dewi Sant, Blaenau Ffestiniog am 10.30yb
3 Tachwedd Cymun Bendigaid
Roland Barnes
10 Tachwedd Sul y Cofio am 10.40yb
Tim Webb
17 Tachwedd Gwasanaeth Unedig y Cymun Bendigaid yn Eglwys Sant Mihangel, Llan Ffestiniog am 10.30yb
Bydd yr Archesgob Andy yn pregethu ac yn llywyddu
24 Tachwedd Boreol Weddi
Tîm Lleyg
Cafodd gardd gymunedol wedi’i chyflwyno i ddioddefwyr pandemig Covid 2020 – 2022 ei agoriad swyddogol yn ddiweddar gan y Cynghorydd Meryl Roberts yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Penrhyndeudraeth. Cyflwynwyd y syniad o ardd goffa mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Ecclesiastical Insurance ac fe gyrhaeddodd rownd derfynol Ranbarthol Cymru yn 2021. Galluogodd cefnogaeth bellach gan gronfa Eglwysi Cymru a weinyddir gan Gyngor Gwynedd i weledigaeth yr ardd gael ei gwireddu, ac mae bellach yn cynnwys meinciau coffaol sy’n edrych allan dros aber afon Dwyryd tua Chastell Harlech, gwelyau blodau ar gyfer planhigion peillio, llwybr sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn a gwelyau plannu uchel er mwyn i drigolion sydd â llai o symudedd allu cymryd rhan a garddio, ac adeiladwyd yr ardd gan yr eglwys a gwirfoddolwyr a chyflenwyr lleol. Mae ardal addysgol a chadwraeth ar gyfer plant yn cynnwys llecyn picnic a man gweithio yn yr awyr agored, gyda phwll bach i ddenu bywyd gwyllt y dŵr.
Plannwyd coeden goffadwriaethol gan y Cynghorydd Cymunedol Meryl Roberts yn ystod yr agoriad. “Mae’r ardd ar agor yn ddyddiol gydol y flwyddyn, mynediad am ddim, a bydd yn parhau fel man ar gyfer myfyrdod tawel ar gyffordd tref brysur.” meddai Angela Swann, aelod o’r Eglwys. “Gwahoddir unrhyw un a gollodd aelod o’u teulu, ffrindiau neu gydweithwyr o ganlyniad i’r feirws a oedd yn drigolion Gwynedd i gael cofnodi eu henwau mewn Llyfr Coffáu a fwriedir ei lunio yn yr eglwys yn 2023, sydd bellach ar agor 10am–4pm yn ddyddiol.”
Meddai’r Parchedig Roland, “Mewn byd sy’n llawn pwysau a phryderon, o newid hinsawdd i drallod economaidd a gwrthdaro, mae’n braf cael man tawel, distaw i eistedd a myfyrio, a chael codi ein calonnau gan rywbeth gwirioneddol hardd; lliwiau’r blodau a chân yr adar.
“Mae’r ardd hon yn glod i aelodau’r eglwys ac aelodau cymuned Penrhyndeudraeth, sydd wedi dod ynghyd i greu rhywbeth gwerth chweil.”
Meddai’r Cynghorydd Meryl Roberts, “Roedd yn anrhydedd agor yr ardd hon fel fy ymrwymiad cyntaf fel cynghorydd sir. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi gweithio ar yr ardd, ac mae’n werth dod i weld yr ardd ac eistedd ynddi.”
Ceir mwy o wybodaeth gan y Parchedig Roland Barnes, Ardal Weinidogol Bro Moelwyn Teleffon 01766 771550 Hafan - Bro Moelwyn (churchinwales.org.uk) Ebost rolandmawddwy@outlook.com
Cynghorydd Meryl Roberts, Jacqui Thomas, Llywydd Olwyn Fewnol a Phlant Clwb Sadwrn
Holy Trinity Church, Penrhyndeudraeth
Holy Trinity Church, Penrhyndeudraeth was built in 1858; a Victorian church designed by TM Penson and was built with a generous donation from Mrs William Oakley of the Oakley Slate Mining Company, Blaenau Ffestiniog. There is an addition of prefabricated church hall to the east aspect. OS Reference SH611388
In 2018 we celebrated our 160th Anniversary and community members, representatives of local organisations along with our local MP Liz Saville Roberts and Lord Lieutenant Edmund Bailey enjoyed an Anniversary Service and reflective sermon by Reverend Susan Owen a onetime incumbent of the parish. With this, there was a display of Holy Trinity’s History. In November we remembered those from the town who had lost their lives in the First World War with a display of items and memorabilia along with poignant letters from The Front to family members in Penrhyndeudraeth.
We held a Community Summer Fair in July, a Christmas Fair in November and a Christmas Tree Festival starting in December. The first to be held in our church and which will include trees from the clubs and organisations in the town and this will herald in Advent.
We are currently discussing reordering of the church to provide a drop in centre with efficient heating, café area, quiet room for consultations, and additional space for worship and activities.
Our motto is: Open Door, for Praise, for Community, for Life.
OPEN CHURCH
Holy Trinity Church, Penrhyndeudraeth is now open daily from 10.00am to 4.00pm for Rest, Reflection and Private Prayer. All welcome!
Holy Trinity Penrhyndeudraeth is working towards the Eco Church Bronze award. For further details of the initiative please go to:ecochurch.arocha.org.ukEco Church - An A Rocha UK Project
BOOK OF REMEMBRANCE
A Book of Remembrance to record the names and villages of those residents of Gwynedd who died as a result of contracting Covid 19 is being collated by Holy Trinity Church Penrhyndeudraeth. The book will hold only the first and surname names and last village of residence in Gwyneddof the deceased person. The Tranquillity Garden at the rear of the church is dedicated to those who lost their lives in the pandemic and enquiries for inclusion of information into the Remembrance Book are welcomed.
Please contact Church Warden Annette Evans telephone 01766 770869 or Secretary Angela Swann 01766 770686. Or complete the form available inside the church which is open 10-4pm daily throughout the year.
Services for the next Sundays all at 11.30am (except where shown)
27th October United Service of Holy Communion in St. David's Church, Blaenau Ffestiniog at 10.30am
3rd November Holy Communion
Roland Barnes
10th November Remembrance Sunday at 10.40am
Tim Webb
17th November United Service of Holy Communion in St. Michael's Church, Llan Ffestiniog at 10.30am
Archbishop Andy will preach and preside
24th November Morning Prayer
Lay Team
A community garden dedicated to victims of the Covid pandemic of 2020 to 2022 was officially opened recently by Councillor Meryl Roberts at Holy Trinity Church Penrhyndeudraeth. The idea of a garden of remembrance was entered into a competition organised by Ecclesiastical Insurance and was voted Wales Regional Finalist in 2021. Further support from The Welsh Church fund administered by Gwynedd Council enabled the garden to be realised and now includes commemorative benches with views of the Dwyryd Estuary towards Harlech Castle, flowerbeds for pollinating plants, a wheelchair accessible path and raised beds for less mobile residents to take part in gardening, and was built by church and resident volunteers and local suppliers. A children’s educational and conservation area provides a picnic and outside working area with small pond to attract aquatic wildlife.
A commemorative tree was planted by Community Councillor Meryl Roberts at the opening.
“The garden is open daily throughout the year, free to visit, and will remain a place of quiet reflection in the crossroads of a busy town’ said Angela Swann congregational member. ’Anyone whose family, friends or colleagues died as a result of contracting the virus and were Gwynedd residents are invited to have their names recorded into a Book of Remembrance planned for 2023 at the church, which is now open daily from 10-4pm.”
The Reverend Roland commented; “In a world dominated by pressures and worries, from climate change to economic woes and conflicts, it is so nice to have a calm, quiet space to sit and reflect, and have our spirits lifted by something truly beautiful; the bright colour of flowers and singing of birds.
The garden is a credit to the church members and members of Penrhyndeudraeth community, who have come together to create something really worthwhile.”
Councillor Meryl Roberts said “ It was an honour to open the garden as my first engagement as a county councillor. I would also like to thank everyone who has worked on the garden and it’s worth coming to have a look and sit in the garden “
For further information please contact Reverend Roland Barnes Bro Moelwyn Ministry Area Telephone 01766 771550 Home - Bro Moelwyn (churchinwales.org.uk) Email rolandmawddwy@outlook.com
Councillor Meryl Roberts, Jacqui Thomas, President Inner Wheel and Children of Saturday Club